Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

07 Ionawr 2019

SL(5)291 – Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Gwneir y Rheoliadau o dan adran 9 o Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 ("Deddf 2018"). Mae Deddf 2018 yn rhoi terfyn ar yr Hawl i Brynu o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 a’r Hawl i Gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996, gyda’r hawliau hyn yn gymwys i denantiaid landlordiaid tai cymdeithasol sydd â thenantiaethau diogel neu denantiaethau sicr yn y drefn honno. Mae Deddf 2018 yn darparu ar gyfer cyfnod o flwyddyn yn dilyn Cydsyniad Brenhinol pan fydd hawliau presennol yn cael eu harfer cyn diddymu’r hawliau hyn yn llwyr. Daw’r cyfnod rhybudd hwn i ben ar 25 Ionawr 2019.  Daethpwyd â’r hawliau mewn perthynas ag eiddo newydd i ben ar 24 Mawrth 2018.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985") a Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ("Deddf 2017") o ganlyniad i Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

          Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau arbed i sicrhau y bydd darpariaethau perthnasol o fewn Deddf 1985 yn parhau’n gymwys mewn perthynas â cheisiadau a wneir i arfer yr hawl i brynu neu’r hawl i gaffael mewn perthynas â thai annedd yng Nghymru ar 25 Ionawr 2019 neu cyn hynny, ac mewn perthynas â thai annedd a brynwyd o dan yr hawl i brynu neu’r hawl i gaffael ar y dyddiad hwnnw neu cyn hynny (neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd cyn y dyddiad hwnnw).

 

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaethau arbed i sicrhau y bydd rhyddhadau perthnasol o fewn Atodlen 15 i Ddeddf 2017 hefyd yn gymwys o ran trafodion sy’n deillio o geisiadau a wneir i arfer rhai hawliau i brynu a hawliau i rentu o ran morgeisi a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2019 neu cyn hynny.

Rhiant-Ddeddf: Gorchymyn Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 10 Rhagfyr 2018

Yn dod i rym ar: